Eglwys yr Holl Saint ym Maerdy
Mae cynghorydd sy’n ymgyrchu i geisio sicrhau dyfodol Eglwys yn y Rhondda wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “fodlon gwneud beth bynnag mae’n gymryd” i geisio sicrhau dyfodol y lle.

Yn ôl Gerwyn Evans mae ‘agenda gudd’ i gau Eglwys Yr Holl Saint.

Ond mae Archesgob Cymru yn mynnu y bydd yr eglwys yn cael ei gwerthu, a bod pob opsiwn arall eisoes wedi ei wyntyllu a’i wrthod.

Ac mae’r Dr Barry Morgan hefyd yn gwrthod unrhyw awrgym bod agenda gudd o ran yr Eglwys yng Nghymru.

Mae plwyfolion yr eglwys yn y Rhondda wedi gwrthod gadael adeilad fydd yn cael ei chau am byth, yn dilyn y gwasanaeth olaf ddydd Sul diwethaf.

Yn ôl yr eglwys mae angen £400,000 er mwyn adnewyddu’r adeilad ac y byddai yn gwneud mwy o synnwyr gwario’r arian ar gadw eglwysi sydd mewn cyflwr gwell ar agor.

Eisoes, mae Archesgob Cymru wedi dweud nad oes “unrhyw un eisiau gweld yr eglwys yn cau” a bod ei “weddïau gyda holl aelodau Yr Holl Saint” wrth iddyn nhw wynebu colli’r adeilad 126 blwydd oed.

“Nid oes gan yr Eglwys yng Nghymru unrhyw agenda gudd ar hyn o gwbl. Mae’n fater syml o ymarferoldeb a chronni ein hadnoddau er mwyn sicrhau y gall y gymuned barhau i addoli ym Maerdy,” meddai Dr Barry Morgan, esgob Llandaf.

‘Tanseilio’

Yn ôl y Cynghorydd lleol Gerwyn Evans mae’r sefyllfa yn un “emosiynol” i bobl yr ardal a bod Yr Eglwys yng Nghymru a Chyngor Plwyfol yr Eglwys wedi “tanseilio pobl Maerdy ”drwy gau’r Eglwys heb roi ystyriaeth i opsiynau eraill.”

“Rydw i’n credu bod agenda guddiedig i gau’r Eglwys,” meddai.

Dywedodd bod grŵp Cyfeillion Eglwys Yr Holl Saint sy’n ceisio “sicrhau dyfodol yr Eglwys” yn y broses o “agor cyfrif banc” a’u bod yn derbyn rhoddion gan bobl ac yn ceisio codi arian i ddiogelu dyfodol yr addoldy.

Maen nhw hefyd yn rhannu pamffledi sy’n son am wasanaeth ddydd Sul nesaf, fydd yn cael ei gynnal yn yr eglwys – er gwaethaf trefniant i gynnal gwasanaethau yn Neuadd y Gymuned, ers i’r eglwys gau.  Mae’r pamffledi  hefyd yn son am gyfarfod cyhoeddus i bobl yr ardal ddydd Llun nesaf.

Ailystyried? 

Roedd y grŵp  wedi galw ar Gyngor Plwyfol yr Eglwys ddydd Sul i ailystyried cau’r Eglwys o fewn 48 awr, ond dyw’r grŵp heb glywed dim byd yn ôl.

“Dydyn ni heb glywed yn ôl o gwbl. Rydan ni wedi’n tristau am hyn. Ond, dw i’n meddwl eu bod nhw wedi ein synnu gyda’r gefnogaeth rydan ni wedi’i gael ac o weld bod y cyhoedd ar ein hochr ni,” meddai Gerwyn Evans.

“Dydyn ni ddim yn teimlo bod rheswm i gau’r eglwys, rydan ni’n credu bod dyfodol i’r Eglwys ac rydan ni am gario malen i addoli yno. .. Dydw i ddim yn mynd i unlle,” meddai  gan ychwanegu bod llawer o bobl oedd wedi gadael y capel yn eu harddegau wedi dod yn ol ers i’r eglwys gau.

Fe ddywedodd bod Yr Eglwys yng Nghymru wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun nesaf ac y bydd y grŵp yn trefnu mynd i Landaf i weld yr Esgob Barry Morgan yn fuan.

“Mae’n rhwystredig peidio clywed dim byd yn ôl…Mae angen ffordd ymlaen arnom, dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw gerdded i ffwrdd.”

Yr Eglwys yng Nghymru

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru wrth Golwg360 bod y penderfyniad i gau’r eglwys wedi’i wneud gan Gyngor Plwyfol yr Eglwys ac “na fydden nhw’n ailystyried y penderfyniad.”

“Mae’r achos wedi cau,” meddai’r llefarydd  cyn ychwanegu y bydd yr eglwys yn “mynd ar werth.”

“Fe gafodd y penderfyniad i gau Yr Holl Saint ei wneud gan gan Gyngor Plwyfol yr Eglwys  a wnaeth y rhai sy’n protestio nawr ddim pleidleisio yn ei erbyn nac awgrymu opsiwn arall pan roedd cyfle,” meddai Archesgob Cymru,  Dr Barry Morgan.

Dywedodd mai am “bobl” nid “adeiladau” oedd yr eglwys.

“Diolch i gynnig y defnydd o’r neuadd gymunedol, mae‘n gyfle gwych i’r gynulleidfa fod yn eglwys i Dduw – heb y pryder o orfod rhoi eu holl egni ac arian i mewn i adeilad sydd ddim yn addas. Mae’n gyfle byddwn yn eu hannog i’w ddefnyddio,” ychwanegodd y Dr Barry Morgan.

Gohebydd: Malan Vaughan Wilkinson