Swyddfa S4C
Mae’n “anhygoel” bod S4C am barhau i ddangos rhaglenni trwy’r dydd o gofio bod 25% o’i chyllid yn diflannu.
Ac mi fydd y gwariant ar raglenni unigol yn “gymharol denau” ac yn effeithio ar y safon, yn ôl y darlithydd ar y cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, Dr Llion Iwan, sy’n cymharu sefyllfa’r Sianel Gymraeg gyda BBC4.
“Mae cyllid S4C [ar gyfer gwneud rhaglenni] yn dod lawr i £67 miliwn, ac maen nhw’n bwriadu darlledu o saith y bore hyd nes 11 yr hwyr, sy’n golygu lot o raglenni gwreiddiol,” meddai am y Cynllun Comisiynu Rhaglenni ar gyfer 2012-15.
“Os ydach chi’n cymharu hynny gyda sefyllfa BBC4, sydd efo cyllideb o £87 miliwn, mae’r sianel yna’n darlledu o saith yr hwyr tan yr oriau mân – ond mae nifer fawr o ailddarllediadau.
“Mae rhaglenni sy’n ymddangos ar BBC4 yn gynnar yn y nos yn cael eu hailddarlledu yn yr oriau mân.
“Felly cymharol ychydig o raglenni gwreiddiol sydd, ond mae gwario ar y rhaglenni hynny.
“I’r gwrthwyneb, mae S4C yn tynnu’r lastig yn dynn dynn. O gymharu, mae’r gwariant ar raglenni S4C yn gymharol denau.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 7 Gorffennaf