Mae’r heddlu yn galw am lygaid dystion ar ôl gwrthdrawiad marwol neithiwr ar yr A4232 i gyfeiriad y gogledd ger Croes Cwrlwys yng Nghaerdydd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 9.40pm ddoe. Gadawodd Mini du ’08 y ffordd a tharo rhagfur pont.

Dioddefodd gyrrwr y Mini, merch 19 oed oedd yn byw yn lleol, anafiadau difrifol ac fe fu farw yn y fan a’r lle.

Aethpwyd a dau deithiwr gwrywaidd oedd yn y car i Ysbyty Athrofaol Cymru’r brifddinas wedi iddyn nhw ddioddef o anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu wedi penodi swyddog cyswllt i gefnogi perthnasau’r ferch fu farw ac wedi rhoi gwybod i’r crwner.

Mae Heddlu De Cymru yn galw ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r cerbyd toc cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Cafodd y ffordd ei gau am tua phedair awr wrth i’r heddlu ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

Dylai unrhyw un sudd â gwybodaeth ffonio Uned Heddlua Ffyrdd Gwealod-y-Garth ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.