Mae cadeiryddion tri bwrdd rhanbarthol sy’n gyfrifol am geisio cael gwared â TB ychol wedi ymddiswyddo gan honni fod Llywodraeth Cymru wedi eu “camarwain”.
Camodd John Owen, Peredur Hughes a John Stevenson o’r neilltu gan ddweud nad oedd y llywodraeth wedi trafod â nhw cyn oedi’r cynllun i ddifa moch daear.
Yr wythnos diwethaf penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio bwrw ymlaen â chynllun dadleuol i ddifa moch daear yn Sir Benfro gan ddweud eu bod nhw eisiau cynnal ymchwiliad gwyddonol yn gyntaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod penderfyniad y tri phennaeth i ymddiswyddo yn “eu gofidio” ond eu bod nhw’n ymroddedig i gael gwared at TB ychol.
‘Dim diddordeb’
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y cadeiryddion eu bod nhw’n “teimlo ein bod ni wedi ein camarwain yn llwyr ac felly yn ein tro wedi camarwain y rheini oedd wedi gofyn am ein cyngor”.
“Dan yr amgylchiadau rydyn ni’n teimlo nad oes dewis ond tynnu ein cefnogaeth yn ôl nes eich bod chi wedi cwblhau’r ymchwiliad gwyddonol neu yn barod i gwrdd gyda ni.
“Mae’r ffaith eich bod chi wedi dod i’r penderfyniad yma heb hyd yn oed wrando ar ein barn ni yn awgrymu nad oes gennych chi ddiddordeb ynddo.”
Cafodd y Byrddau Difodi TB Rhanbarthol eu sefydlu yng ngogledd Cymru, Gorllewin Cymru a’r De Ddwyrain yn 2008 er mwyn ymchwilio i ffyrdd o fynd i’r afael â’r clefyd.
Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar faterion gwledig, Antoinette Sandbach, fod y llywodraeth wedi gwneud smonach wrth ohirio’r difa.
“Rydw i wedi fy synnu gan y modd y mae’r cynllun i ddifa moch daear wedi ei osod o’r neilltu, ac mae ffermwyr ar draws Cymru yn pryderu,” meddai.