Darren Millar
Mae cwestiynau mawr i’w gofyn am y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian y Gwasanaeth Iechyd.
Dyna ddywed Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid yn y Bae, wrth iddo honni ei bod yn gallu costio £8 i’r wlad am gyflenwi parasetamol am ddim, a hwnnw ar werth yn y siop am cyn lleied ag 16 ceiniog.
Mae nifer o presgripsiwns parasetamol yng Nghymru wedi cynyddu bron i 25% yn y pum mlynedd diwetha’, yn ôl ffigurau newydd.
Ers 2007 mae trigolion yng Nghymru wedi derbyn presgripsiwn am ddim.
Yn ôl Gweinidog Iechyd dros yr wrthblaid mae’n costio £8 ar gyfartaledd am bob eitem ar bresgripsiwn yng Nghymru.
“Yn y cyfamser mae parasetamol yn gallu cael ei brynu am cyn lleied ag 16 ceiniog gan rhai gwerthwyr,” meddai Darren Millar.
“Wrth i fwy a mwy o’r eitemau yma gael eu dosbarthu am ddim, mae’n rhaid cwestiynu a yw’n ddefnydd effeithiol o adnoddau.
“Wrth i’r nifer o bresgripsiynau barhau i gynyddu yng Nghymru, fe fydd y pwysau ar gyllid y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn cynyddu hefyd.
“Gyda Llafur yn torri £1 biliwn o’r cyllid iechyd dros y dair blynedd nesaf, fe fydd hyn yn rhoi straen ychwanegol ar ysbytai a staff.”
‘Presgripsiwn am ddim yn dda’
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n ystyried presgripsiynau am ddim yn fuddsoddiad tymor hir i wella iechyd pobl.
“Trwy ddarparu pobl gyda’r meddyginiaethau angenrheidiol, fe fyddwn yn galluogi pobl i reoli iechyd eu hunain yn fwy effeithiol o gartref,” meddai’r llefarydd.
“Bydd hyn yn lleihau’r risg o anhwylder cronig neu bod y salwch yn gwaethygu, a fydd yn lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau brys.”