Alec MacLachlan
Fe fydd cwest Cymro gafodd ei herwgipio yn Irac yn 2007 yn cael ei gynnal heddiw.

Cafodd y gwarchodwyr Alec MacLachlan, 30, o Lanelli, Jason Swindlehurst, 38, o Skelmersdale, Swydd Gaerhirfryn, a Jason Creswell, 39, o Glasgow, eu herwgipio gyda’r arbenigwr cyfrifiadurol 36 oed, Peter Moore.

Herwgipiwyd y pedwar gan wrthryfelwyr oedd wedi eu gwisgo fel heddlu Irac yn adran gyllid y wlad ym mis Mai 2007.

Cafodd tri chorff, gan gynnwys  corff Alec MacLachlan, eu trosglwyddo i’r awdurdodau Prydeinig yn 2009. Rhyddhawyd Peter Moore yn fyw ar 30 Rhagfyr yr un flwyddyn, 946 diwrnod ar ôl cael ei herwgipio.

Y gred yw bod pedwerydd gwarchodwr, Alan McMenemy, 34, o Glasgow, hefyd wedi ei ladd.

Roedd adroddiadau yn y wasg ar y pryd yn awgrymu fod y gwystlon wedi eu symud ar draws y ffin i Iran a’u dal yno gan y Gwarchodlu Chwyldroadol.

Ond dywedodd Peter Moore yn ddiweddarach ei fod yn credu iddo gael ei garcharu yn Baghdad a Basra a’i symud o dŷ i dŷ bob ryw dri mis.

Ychwanegodd ei fod wedi recordio sawl fideo yn rhoi gwybod ei fod yn fyw ond mai dim ond un gyrhaeddodd y cyhoedd.

Bydd y cwest yn cael ei gynnal yn Neuadd Tref Trowbridge yn Swydd Wilton.