Mae cynghorydd yn dweud fod “gofid mawr” ym Mhenrhyndeudraeth ar ôl ffrae dros archebu diodydd drwy’r Gymraeg.

Cafodd dyn 25 mlwydd oed ei arestio yn dilyn ddigwyddiad yn nhafarn y Royal Oak ym Mhenrhyndeudraeth yn oriau mân y bore ddydd Sul.

Mae’r heddlu wedi ei ryddhau ar fechniaeth ac wedi galw am unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad tua hanner nos i gysylltu â nhw.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i ddau wn awyr yno. Cafodd y dyn, nad oedd yn gwsmer, ei arestio ar amheuaeth o feddu ar wn ac o geisio codi ofn.

Yn ôl y Cynghorydd Dewi Lewis roedd y ffrae rhwng tenantiaid y dafarn a pobol oedd am archebu diodydd yn y Gymraeg.

“Roedd tenantiaid newydd wedi cyrraedd y dafarn ddydd Mercher diwethaf,” meddai.

“Erbyn nos Wener, roedd pobol yn archebu yn Gymraeg a nhw ddim eisiau nac yn hoffi hyn.

“Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i’r digwyddiad ddychryn pobol. Mae pobol leol yn falch bod yr heddlu wedi ymateb yn sydyn ac yn cymryd y peth o ddifrif.”

‘Ym mhob cyd-destun’

“Mae’n bwysig bod gyda phobol gyfle i ddefnyddio’r iaith ym mhob cyd-destun,” meddai Menna Machreth, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360.

“Mae’r dafarn yn ganolbwynt cymunedol. Rydyn ni’n trio annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn bob agwedd o fywyd.

“Mae eisiau sicrhau bod pobol yn gallu parhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol – yn arbennig cymunedau lle mae’r iaith yn naturiol a chymunedol”.

Cysylltu

Gellir gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 6071002, neu Taclo’r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555 111.