Castell Caernarfon - crair na ellid ei werthu
Mae mannau archeolegol o bwys mewn peryg oherwydd eu bod nhw’n cael eu rheibio er mwyn gwneud elw sydyn. Dyna farn academydd o Abertawe sydd wedi ennill gwobr am ei waith yn rhwystro masnachu anghyfreithiol mewn hen greiriau.

Fe fydd Dr David Gill, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig i Wasanaeth Cyhoeddus gan Sefydliad Archeoleg America (yr AIA) am 2012. Mae’r wobr yn nodi gwaith sy’n digwydd ym maes creu gwell dealltwriaeth o’r pwnc.

“R’yn ni wedi bod yn edrych ar y fford dy mae hen greiriau hanesyddol ac archeolegol wedi bod yn troi lan mewn marchnadoedd yn Llundain a Gogledd America,” meddai David Gill.

Mae’n dweud fod darnau weithiau’n dod i feddiant “pobol yn mynd ma’s yn y nos ac yn cloddio pethau lan” ac yna’n eu gwerthu. Mae’n dweud y gallai’r fasnach fod yn werth cymaint â $50m neu $60m.

“Mae fy ngwaith ymchwil i wedi cyfrannu at drafodaeth am y fasnach anghyfreithlon hon,” meddai, “ac mae’n dangos beth yw effaith dinistriol y fasnach ryngwladol yma ar y ffordd yr ydyn ni’n cofio.”

Yn ystod ei yrfa, mae Dr Gill wedi ymchwilio i archeoleg Groeg yn yr Eidal, ac mae wedi bod yn gweithio yn yr ysgol yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain. Yn fwy diweddar, mae wedi canolbwyntio ar y casgliad anferth o ffotograffau sydd wedi ei gadw yn y Swistir.