Ymgyrchwyr yn erbyn yr is-orsaf a'r peilonau
Fe ddylai polisi ardaloedd ynni gwynt y Llywodraeth gael ei ddiwygio’n llwyr, meddai’r Blaid Geidwadol.
Er bod y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cefnogi’r gwrthwynebiad i godi peilonau ar draws rhan o ganolbarth Cymru, mae angen mynd ymhellach, meddai’r Torïaid.
“Fe ddylai’r Prif Weinidog yn awr gydnabod nad yw TAN 8, y cyngor y mae ef yn gyfrifol amdano, yn ateb y diben ac mae angen diwygiad llawn, ar frys,” meddai Russell George, llefarydd y blaid ar yr amgylchedd ac Aelod Cynulliad Maldwyn.
Yno y mae’r cynlluniau mwya’ ar gyfer ffermydd gwynt, ac mae’r Grid Cenedlaethol eisiau codi is-orsaf drydan fawr ac, efallai, res o beilonau ar draws milltiroedd o dir gwledig.
‘Rhaid mynd ymhellach’
Er bod Carwyn Jones wedi dweud ddydd Gwener bod rhaid cyfyngu ar nifer y ffermydd ac wedi gwrthwynebu’r peilonau, mae Russell George yn dweud bod rhaid mynd ymhellach.
Mae’r ddogfen gyngor, TAN 8 yn awgrymu uchafswm, meddai, ond ar yr un pryd yn dweud nad yw’r uchafswm hwnnw’n orfodol.
“Roedd yna ddiffyg gweld ar ran Carwyn Jones, y gweinidog a gyflwynodd TAN 8, wrth iddo fethu â rhagweld y byddai angen peilonau ac is-orsafoedd trydan i gefnogi cynlluniau ffermydd gwynt ar y fath raddfa.”
Glyn yn canmol Carwyn
Ond mae Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, wedi canmol Carwyn Jones, gan ddweud fod ei ymyrraeth yn cynnig gobaith gwirioneddol o fuddugoliaeth i’r protestwyr yn erbyn y cynlluniau ynni gwynt.
Llywodraeth Prydain sy’n gyfrifol am dderbyn neu wrthod cynlluniau mawr ac, yn ôl Glyn Davies, roedd eisoes yn obeithiol o’u perswadio i wrthod. Bellach, roedd yn sicr y bydden nhw’n ennill.
“Fe fyddai cymeraedwyo cynlluniau’r Grid Cenedlaethol, gyda phob plaid wleidyddol, miloedd o ymgyrchwyr a’r Prif Weinidog yn gwrthwynebu, yn gwneud i Dryweryn edrych fel te parti,” meddai.