Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud na allai “ganiatáu i Gymru barhau i gael ei hariannu’n annheg” yn dilyn cyfarfod â Prif Weinidog Prydain heddiw.

Dyma’r tro cyntaf i Carwyn Jones gwrdd â David Cameron ers Etholiadau’r Cynulliad

Fe fu’n cwrdd â David Cameron yng nghwmni prif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Rhif 10 Stryd Downing, gyda’r tair gwlad yn gofyn am bethau gwahanol.

Mae Carwyn Jones wedi gofyn am newid i Fformiwla Barnett sy’n dosbarthu arian rhwng y gwledydd.

Yn ôl Comisiwn Holtham, fe fyddai Cymru’n derbyn tua £300 miliwn y flwyddyn yn rhagor, pe bai’r Fformiwla wedi ei seilio ar angen, yn hytrach na phoblogaeth.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi addo sefydlu comisiwn er mwyn ymchwilio i’r mater. Mae disgwyl y bydd rhagor o fanylion gael eu cyhoeddi fis nesaf.

‘Adeiladol’

“Allwn ni ddim caniatáu i Gymru barhau i gael ei hariannu’n annheg a rhaid i ddiwygio beidio â llithro o’r agenda,” meddai Carwyn Jones ar ôl y cyfarfod.

“Roedd hwn yn gyfarfod adeiladol, ond unwaith yn rhagor fe godais fater cyllido Cymru’n annheg.

“Mae’n angenrheidiol i ni gael ffordd decach o ariannu’n gwasanaethau cyhoeddus ni.  Wrth i Gymru golli hyd at £300 miliwn y flwyddyn, mae’n hen bryd i roi ystyriaeth i hyn.

“Fe wnes hi’n glir bod y system bresennol ar ei hôl hi ac ailadroddodd yr angen am becyn ariannu tecach.

“Rhaid i’r Llywodraeth Brydeinig fynd i’r afael â’r cwestiwn hwn a chynnig ateb amgen.  Fodd bynnag, dim ond drwy weithio ar y cyd gyda ni y gallan nhw wneud hynny.

“Mae gen i feddwl agored ynghylch natur y setliad newydd, ond waeth i mi fod yn glir, ni fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn trefniant sydd ond yn atgyfnerthu’r tanariannu presennol gan roi Cymru dan anfantais unwaith yn rhagor. ”

Ymateb

Dywedodd y cyn-weinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, fod diffyg gallu’r Prif Weinidog i alw am ddiwygiad llawn o’r ffordd mae’r wlad yn cael ei ariannu yn dangos diffyg taerineb i fynd i’r afael a’r problemau ariannol sy’n wynebu Cymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi bod yr achos dros ddiwygiad llawn o’r ffordd mae Cymru yn cael ei ariannu wedi ei wneud yn glir, a ni fydd yn dderbyniol i arweinydd llywodraeth Cymru i fethu mynd a’r neges yna i San Steffan.

“Mae gofyn am ragor o arian i Gymru heb fynd i’r afael a’r annhegwch sylfaenol yn y ffordd mae Cymru yn cael ei ariannu fel cael bwced llawn tyllau a gofyn am ragor o ddŵr,” meddai Alun Ffred Jones.

“Mae adroddiadau am y safbwynt mae Carwyn Jones yn ei gymryd yn sicr yn rhoi’r argraff ei fod yn gyrru neges i’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol nad yw’n fodlon ymladd dros fargen deg i Gymru.

“Mae’n hanfodol ein bod yn wynebu’r gwir heriau yng Nghymru. Mae’r angen am fuddsoddiad mewn gwariant cyfalaf wedi ei gydnabod a dyna pam rydym ni ym Mhlaid Cymru yn annog y llywodraeth i wthio ymlaen gyda chynnig gwreiddiol ‘Adeiladu dros Gymru’ allai greu hyd at 50,000 o swyddi drwy fuddsoddi mewn ysgolion, ysbytai a ffyrdd.

“Rydym hefyd yn gofyn am roi treth gorfforaeth ar yr agenda, rhywbeth sydd eisoes ar gael yng nghenhedloedd datganoledig eraill, er mwyn helpu busnesau Cymru i ddatblygu a thyfu.

“Mae’n syndod i mi fod Carwyn Jones a Llafur yng Nghymru yn derbyn casgliad y Comisiwn Holtham sy’n amlinellu’n gryf pam nad yw Cymru’n cael ei ariannu yn deg, ond eto yn gwrthod galw am ddiwygiad i’r system.

“Efallai bod Carwyn Jones yn cytuno hefo’i gyd-weithwyr Ed Balls, Liam Byrne a Peter Hain sydd yn credu bod y Fformwla Barnett yn gweithio yng Nghymru?

“Neu, hyd yn oed yn waeth, efallai nad oes gan Carwyn Jones y gallu i ddarbwyllo ei arweinwyr yn San Steffan bod Cymru angen system decach?

“Os mae hyn yn wir, ac nid yw Carwyn Jones yn gallu gwrthsefyll ei blaid yn San Steffan, sut fedrwn ni byth gredu y gallai amddiffyn Cymru rhag toriadau Torïaid – Democratiaid Rhyddfrydol fel y gwnaeth addo?

“Mae angen ariannu teg i Gymru yn fwy nag erioed ac rwyf yn bryderus iawn bod Carwyn Jones a llywodraeth Cymru yn gadael i beth sydd o fudd i Gymru gael ei roi o’r neilltu drwy ddiffyg gweithredu.”