Heddlu Dyfed-Powys
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau heddiw eu bod yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth dynes yn Sir Benfro.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff gwraig 66 mlwydd oed yn Arberth ddydd Gwener diwetha’.

Er nad yw ei henw wedi ei gyhoeddi’n swyddogol eto, mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn am gymorth pobol leol a allai daflu goleuni ar yr hyn ddigwyddod yn ardal Providence Hill.