Inswlin
Bydd nyrs cymunedol sydd wedi ei chyhuddo o roi dos gormodol o inswlin i glaf diabetig fu farw yn ddiweddarach yn cael gwybod heddiw a fydd hi’n colli ei lle ar y gofrestr broffesiynol.

Fe fu farw Margaret Thomas, 85 oed, chwe awr ar ôl cael y pigiad gan Joanne Elizabeth Evans o Ymddiriedolaeth Gwent y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Penderfynodd cwest i farwolaeth Margaret Thomas ddwy flynedd yn ôl ei bod hi wedi ei lladd yn anghyfreithlon.

Mae Joanne Elizabeth Evans yn wynebu dau gyhuddiad o gamymddwyn gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae wedi ei chyhuddo o roi “3.6ml o inswlin Lantus (tua 360 uned)” yn hytrach na’r ddos gywir, sef 36 uned.

Mae i hefyd wedi ei chyhuddo o fethu rhoi gwybod i feddyg teulu neu nyrs arall ar ôl gwneud hynny.

Yr achos

Ar 2 Mehefin, 2007, roedd Joanne Elizabeth Evans wedi mynd i weld Margaret Thomas ar ôl iddi lewygu ar stepen drws y ffrynt ei chartref ym Mhontynewydd, Pont-y-pŵl.

Clywodd  y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ei bod hi wedi ceisio rhoi dau bigiad inswlin i’w chlaf ond fod y ddau wedi mynd yn sownd.

Yna fe aeth hi i nôl chwistrell arall o’i char, oedd yn mesur mewn ml yn hytrach nag unedau.

Dywedodd Joanne Elizabeth Evans ei bod hi wedi gwneud camgymeriad a rhoi 3.6ml – tua 360 uned – i Margaret Thomas yn hytrach na 36 uned.

Clywodd y cyngor fod Joanne Elizabeth Evans yn nyrs “ofalgar iawn” a oedd wedi ei chael hi’n anodd ymdopi â’i gwaith am mai hi oedd yr unig nyrs yn yr ardal.

Ond dywedodd Alex Mills o’r cyngor fod Joanne Elizabeth Evans wedi “gwneud camgymeriad mawr oedd ag effaith mawr”.

Fe fydd y panel yn penderfynu ar ei dedfryd heddiw.