Mae dyn 53 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad car ar yr A4068 yng Nghwmtwrch Uchaf.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y dyn, o Gastell-nedd, wedi marw o ganlyniad i’w anafiadau ar ôl y gwrthdrawiad rhwng dau gar am 8.15pm ddoe.
Dioddefodd gyrrwr y car arall fân anafiadau ac fe gafodd ei drin yn Ysbyty Treforys Abertawe.
Mae’r heddlu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 0845 330 2000.