Mae dyn yn anhapus ar ôl iddo fethu angladd ei chwaer ar ôl cael ei atal gan waith ffordd yn y Cymoedd.

Roedd Len Price, 69, a tua phum deg o aelodau o’i deulu 20 munud yn hwyr i wasanaeth coffa  Maureen Green, 73, o Aberbeeg, yn Amlosgfa Gwent ddydd Iau.

Roedden nhw wedi treulio 35 munud mewn ciw hanner milltir o hyd ar Stryd Hafodyrynys, wrth deithio o Gapel Zion, Llanhilleth.

Ar ôl disgwyl deg munud bu’n rhaid i gyfarwyddwr yr angladd adael yr hers a gofyn i un o’r gweithwyr ganiatáu iddyn nhw gael mynd trwodd.

Ond bu’n rhaid i aelodau eraill y teulu oedd yn dilyn yr hers ddisgwyl 20 munud arall cyn cael mynd heibio.

Y peth gwaethaf, meddai Len Price, oedd nad oedd unrhyw waith amlwg yn mynd rhagddo ar y safle rhwng cyffordd Swfrydd junction a chylchfan Pont-y-pŵl.

“Mae’r teulu cyfan yn dweud ei fod yn ofnadwy. Alla’i ddim credu nad oedden nhw wedi gallu trefnu’r peth yn well,” meddai wrth bapur newydd y South Wales Argus.

“Mae’n rhaid i fi gwyno, mae fy chwaer yn haeddu cymaint â hynny.”

Dywedodd cyngor Caerffili eu bod nhw wedi cysylltu â’r contractwyr ynglŷn â beth ddigwyddodd.

Roedden nhw’n ymddiheuro i’r teulu am yr anghyfleustra.