Ben a Catherine Mullany - mae'r llun o wefan Ymddiriedolaeth Mullany sy'n codi arian at feddygaeth a ffisiotherapi i gofio amdanyn nhw
Mae ofnau y bydd yr achos yn erbyn dau ddyn sy’n cael eu cyhuddo o lofruddio cwpwl o Gymru yn cael ei atal eto.

Mae bron dair blynedd ers i Catherine a Ben Mullany gael eu lladd yn Antigua ac mae peryg y bydd yr achos – sydd i fod i ddechrau ar 23 Mai – yn cael ei ohirio.

Yn ôl ffrindiau i deulu Catherine Mullany, yn Rhos, Pontardawe, maen nhw’n dyheu i’r broses gyfiawnder ddod i ben.

Cyhuddo

Mae dau ddyn o o Antigua ym Môr y Caribî wedi cael eu cyhuddo o ladd y cwpwl ifanc a oedd ar eu mis mêl ar yr ynys.

Ond mae Avie Howell a Kaniel Martin hefyd wedi eu cyhuddo o dair llofruddiaeth arall a’r disgwyl yn awr yw y bydd eu cyfreithwyr yn gofyn am drin y pump achos ar wahân.

Fe fydd cymaint â 70 o dystion yn cymryd rhan yn yr achos, gyda llawer yn gorfod teithio i’r ynys o wledydd eraill.

Treforys

Dim ond 31 oed oedd y meddyg Catherine Mullany pan gafodd ei lladd ac fe fu farw yn Antigua. Fe gafodd ei gŵr ei gludo i Ysbyty Treforys lle’r oedd hi’n gweithio. Fe fu yntau farw yno.