Osama bin Laden - rhybuddion am ddial
Mae dwy fom wedi cael eu ffrwydro ym Mhacistan gan ladd tua 70 o bobol.

Yn ôl rhai adroddiadau, mae’r ymosodiad yn ddial am farwolaeth arweinydd Al Qaida, Osama bin Laden.

Mae’r awdurdodau wedi bod yn disgwyl ymsodiada wrth i rai grwpiau terfysgol rybuddio y bydden nhw’n ceisio talu’r pwyth.

Yn ôl pennaeth heddlu lleol, hunan fomiwr ifanc oedd yn gyfrifol am un o’r ddau ffrwydrad mewn canolfan recriwtio yng ngogledd-orllewin y wlad yn agos at y ffin gydag Afghanistan.

Milwyr ifanc oedd y cyfan bron o’r rhai a gafodd eu lladd – roedden nhw’n hyfforddi i fod yn rhan o Heddlu’r Ffin, ac roedd nifer ohonyn nhw’n eistedd mewn bysiau bach yn aros i fynd adre’.

Roedd o leia’ ddeg o’r cerbydau wedi eu dinistrio gan y ffrwydradau ac, yn ôl ysbyty lleol, mae tua 40 o bobol wedi cael eu hanafu’n ddifrifol.