Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud mai cyn-brif weithredwr S4C, Huw Jones yw eu dewis nhw i gael ei benodi’n Gadeirydd newydd Awdurdod y sianel.
Ond cyn iddo gael ei benodi’n swyddogol, bydd rhaid i Huw Jones wynebu’r Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig er mwyn iddyn nhw gael cyfle i roi sêl bendith i’r apwyntiad.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, fod y cyfweliad ychwanegol yn “adlewyrchu pwysigrwydd y penodiad”.
Fe fydd y gwrandawiad cyn penodi Huw Jones yn cael ei gynnal ar 24 Mai. Fe fydd casgliadau’r pwyllgor yn cael ei ystyried cyn penderfynu bwrw ymlaen gyda phenodiad Huw Jones ai peidio.
Mae Huw Jones wedi bod yn brif weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 ac mae hefyd wedi bod yn gadeirydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd am dair blynedd.
Ar hyn o bryd mae’n gadeirydd Portmeirion Cyf, yn is-gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Ymddiswyddodd y Cadeirydd diwethaf, John Walter Jones, cyn y Nadolig.
Ar hyn o bryd, Rheon Tomos yw Cadeirydd dros dro’r Awdurdod, ac Arwel Ellis Owen yw’r Prif Weithredwr dros dro.
Mae’r sianel wedi bod heb Brif Weithredwr parhaol ers i Iona Jones gael ei diswyddo fis Awst y llynedd.
Mae disgwyl y bydd Prif Weithredwr parhaol yn cael ei benodi ar ôl i’r cadeirydd newydd yr Awdurdod gymryd yr awenau.
‘Adlewyrchu barn Cymru’
Dywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod angen i’r Cadeirydd newydd amddiffyn S4C rhag toriadau’r llywodraeth.
“Mae rhaid i’r Cadeirydd newydd ddangos ei fod e’n ddigon cryf i sefyll lan yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i’r BBC gymryd y sianel drosodd a gwneud toriadau enfawr i’w chyllid,” meddai.
“Mae arweinydd pob plaid yng Nghymru yn erbyn y cynlluniau presennol, felly mae rhaid i’r Cadeirydd adlewyrchu barn unedig Cymru.
“Rydyn ni newydd gael etholiad yng Nghymru, ac oedd pob plaid wedi cael eu hethol ar faniffesto a oedd yn gwrthwynebu’r cynlluniau hynny.
“Mae hefyd angen i’r sianel newid fel ei bod hi’n fwy atebol i’w chynulleidfa a chydnabod ei phwrpas ehangach yn yr oes aml-blatfform newydd.”