Mae dyn 23 oed o’r Rhyl wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.

Roedd Christopher Paul Shaw wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad yn y dref nos Sul.

Roedd dyn 37 blwydd oed wedi dioddef anafiadau i’w ben a’i wyneb yn Heol Edward Henry, Rhyl, tua deng munud wedi hanner nos.

 Mae’r dyn yn derbyn gofal yn uned gofal dwys  Ysbyty Walton, Lerpwl ar hyn o bryd.

Mae swyddogion heddlu yn parhau i ymchwilio ac yn apelio ar i unrhyw dystion â gwybodaeth i gysylltu gyda’r Heddlu ar 0845 6071002 neu gyda Taclo’r Tacle ar 0800 555111.