W J Gruffydd
Fe fydd un o gyn-Archdderwyddon Cymru yn cofio’r diweddar W J Gruffydd fel cymeriad “llawn hiwmor” ac fel “Archdderwydd y werin”.

Mae’r prifardd, y cyn-Archdderwydd a’r storïwr, W J Gruffydd y Glog, wedi marw yn 94 oed. Roedd wedi bod yn sâl ers sbel, a bellach yn byw mewn cartref.

Fe enillodd y Goron Genedlaethol ddwywaith – ym Mhwllheli yn 1955 ac yna yng Nghaerdydd yn 1960 – ac, o dan yr enw barddol Elerydd, fe ddaeth yn Archdderwydd yn 1983. Roedd ei bryddest ‘Ffenestri’ yn boblogaidd iawn.

 “Dw i’n cofio ei dro cynta’ fel Archdderwydd,” meddai’r Prifardd a’r cyn-Archdderwydd Selwyn Griffith. “Fe wnaeth o godi ar ei draed cyn y feirniadaeth a dweud – ‘Mi allai sicrhau i chi gyfeillion y bydd yna goroni yma prynhawn yma’ – a dyma pawb o’r gynulleidfa yn dechrau clapio’n syth. Ac yntau’n ychwanegu wedyn – ‘os ceir teilyngdod’.

Mae Selwyn Griffith hefyd yn cofio sgwrs gyda’r bardd yn  Eisteddfod Pontrhydfendigaid.

“Fe ddywedodd wrtha’ i. Selwyn, Selwyn bach. Os wyt ti’n awyddus i ennill y Goron Genedlaethol – gofala bod y drafft cyntaf yn barod cyn y ’Dolig. Mi gymrais i’r tip yna.”

‘Arbennig’

“Roedd o’n gymeriad arbennig,” meddai Selwyn Griffith wedyn.

“Fe ddywedodd wrtha’ i unwaith i ‘ganu cerdd dywyll i’r beirniaid’. Fe wnes i  egluro fy mod i yn ysgrifennu’n ysgafn – i blant yn aml. ‘Selwyn, cana gerdd dywyll i’r beirniaid a gad iddyn nhw egluro i ti beth sydd ynddi’, meddai.

“Roedd o’n llawn hiwmor. Dw i’n credu ei fod o fel fi, yn Archdderwydd y werin – dim gwleidyddiaeth yn y peth. Elyrydd oedd y cyntaf i wisgo’r hen siwt Archdderwydd, a finnau oedd yr olaf.”

Er i W J Gruffydd  gyhoeddi nofelau, cyfrolau o farddoniaeth a dwy gyfrol o hunangofiant, fe fydd llawer o bobol yng ngorllewin Cymru’n ei gofio am ei gyfrolau o straeon digri’, Tomos a Marged.

Ac yntau wedi’i eni yn Ffair Rhos, fe ddaeth W J Gruffydd dan ddylanwad nythod o feirdd yno ac wedyn cael ei sbarduno gan Dewi Emrys a’i golofn bapur newydd Y Babell Awen.