Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi pedwar aelod o deulu fu farw mewn damwain car ym Mhowys ddoe.

Denise Griffith, 55, oedd yr unig un oroesodd y gwrthdrawiad laddodd ei gŵr, ei mam, a dau fab maeth oedd yn eu harddegau.

Hi oedd yn gyrru’r Peugeot 807 pan syrthiodd i mewn i gronfa ddŵr ger Argae Bwlch y Gle, Clywedog, Llanidloes, yn dilyn gwrthdrawiad â char arall.

Llwyddodd i ddianc â mân anafiadau a thynnu sylw’r gwasanaethau brys, ond doedd dim modd achub y teithwyr eraill.

Fe fu farw Emyr Glyn Griffith, 66, Phyllis Iris Hooper, 84, yn ogystal â Peter Briscome, a Liam Govier, y ddau yn 14.

Roedd y teulu, o Bontypridd, wedi bod ar wyliau Pasg cynnar yn ardal Machynlleth.

Gadawodd y Peugeot y B4518 a syrthio i’r dŵr ar ôl gwrthdrawiad â char arall.

Mae dyn 23 oed, gafodd ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd y dyn o ardal Llanidloes yn gyrru Ford Mondeo sydd yn cael ei archwilio gan yr heddlu.

Ymateb

Dywedodd John Davies, cymydog i’r teulu sy’n byw ar Stryd y Barri, Pontypridd, fod beth ddigwyddodd yn “drasig”.

“Roedden nhw’n deulu hyfryd, cymwynasgar iawn. Mae Denise yn fam maeth ac yn ddynes hyfryd.

“Mae ei brawd Lloyd Hooper yn byw ar yr un stryd ac roedd e ar ei wyliau gyda’i wraig a’u plant nhw pan ddigwyddodd hyn.

“Roedd e wedi rhentu carafán yng Nghydweli a bu’n rhaid iddo adael er mwyn mynd lan i ganolbarth Cymru ddoe.

“Siaradais i â fe rhag ofn nad oedd e wedi clywed, ond mi’r oedd e.

“Roedd e wedi torri ei galon yn amlwg. Mae e wedi colli ei fam, ei frawd yng nghyfraith, a’r hogiau.”

Ychwanegodd fod y fam-gu yn “fenyw neis iawn hefyd. Roeddwn i’n ei galw hi’n Mrs Hooper, roedd hi’n hen ffasiwn. Yn mynd i’r capel yn gyson.

“Bu farw fy ngwraig i ryw ddwy flynedd yn ôl ac roedd hi’n cynnig gwneud unrhyw beth i helpu.

“Mae’r gymuned yma yn edrych ar ôl ei gilydd ac fe wnawn ni’n siŵr fod Denise yn iawn ac yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arni.”

Dywedodd Gareth Morgan, cynghorydd sy’n cynrychioli ardal Llanidloes, bod y gymuned wedi cael braw wrth glywed am beth ddigwyddodd.

“Mae wedi cyffwrdd pobol, er nad oedden nhw o’r ardal,” meddai.

“Mae Llanidloes yn gymuned fach clos ac mae eu marwolaethau wedi effeithio ar y bobol yma.”