Mae gweithwyr cwmni gwneud trelars byd enwog o Gymru, yn mynd i fynd ar streic ddechrau’r wythnos nesa’.

Mae aelodau o undeb Unite sy’n gweithio i gwmni Ifori Williams yng Nglannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint yn anhapus gyda’u cyflogau.

Mae pob un o’r 39 o aelodau Unite ar y safle wedi pleidleisio o blaid streicio, yn ôl y swyddog undeb Peter Hughes.

Mae’n brawf, meddai, bod yr aelodau’n teimlo’n gryf am y codiad o 1.5% sydd wedi ei gynnig, sef y cynnydd cyntaf i’w cyflogau ers 2007.

Mae cwmni Ifor Williams yn dweud eu bod wedi cynnig codiad fyddai’n golygu eu body n talu £9.10 yr awr “sydd llawer uwch na’r cyflog ar gyfartaledd yn ardal Glannau Dyfrdwy”.