Heddlu De Cymru
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am ddamwain farwol  ar ffordd yng ngwaelod y Cymoedd.

Fe fu bws mini Ford mewn gwrthdrawiad gyda dau gar ar ffordd yr A4119 yn Thomastown yn sir Rhondda Cynon Taf.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad wrth i’r tri cherbyd deithio i’r un cyfeiriad rhwng rhwng cylchfannau Coed Elái a’r Gilfach Goch ychydig wedi pump o’r gloch neithiwr.

Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gafodd gyrrwr y bws mini ei ladd ac mae chwech o bobol eraill wedi cael eu hanafu. Roedd y ffordd ynghau am rai oriau.

Mae’r heddlu’n gofyn am gymorth gan unrhyw un a welodd y ddamwain neu a fu’n ceisio helpu wedyn.

Dylai pobol sydd â gwybodaeth gysylltu gyda swyddfa’r heddlu yng Ngwaelod y Garth ar 02920 571600.