Llandudno
Mae’r Ceidwadwyr wedi addo adfer trefi glan môr Cymru pe baen nhw’n ennill grym yn dilyn Etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai.

Mae’r blaid yn brwydro am sawl sedd arfordirol, gan gynnwys Aberconwy, Gorllewin Casnewydd, De Caerdydd a Penarth, a Bro Morgannwg.

Maen nhw hefyd yn gobeithio cadw’r etholaethau arfordirol Preseli Penfro, Gorllewin Caerfyrddin a Gorllewin Clwyd o grafangau Plaid a’r Blaid Lafur.

Dywedodd y blaid y byddai Llywodraeth Cymru Geidwadol yn datblygu strategaeth benodol ar gyfer trefi glan môr, gan hybu’r diwydiant twristiaeth yno.

Teithiodd ymgeiswyr y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, Angela Jones-Evans, yn ogystal ag Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns, i Ynys y Barri er mwyn cyhoeddi’r addewid.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid eu bod nhw hefyd yn benderfynol o gael gwared ar drethi busnes i fusnesau bach, a fyddai’n hwb mawr i drefi glan môr.

“Dyw trefi glan môr Cymru ddim ar eu gorau, am nad ydyn nhw’n denu’r gefnogaeth y maen nhw’n ei haeddu,” meddai Andrew RT Davies, ymgeisydd ei blaid yng Nghanol De Cymru.

“Mae angen hybu busnesau bychan, buddsoddi yn yr atyniadau lleol a marchnata’r trefni yn effeithiol.

“Rhaid cael strategaeth glir er mwyn cefnogi trefi ar hyd arfordir prydferth Cymru er mwyn denu twristiaid a gwneud Cymru’n wlad fwy cefnog.”

Dywedodd Angela Jones-Evans, ymgeisydd y blaid ym Mro Morgannwg, fod y Blaid Lafur wedi troi cefn ar drefni glan mor drwy beidio â chefnogi busnesau bychan.

“Yn 2009 fe aeth yr hwch drwy’r siop mewn sawl busnes, gyda mwy yn cau eu drysau yng Nghymru nac y cafodd eu creu.

“Drwy gefnogi busnesau bychan, hysbysebu ein hatyniadau twristiaeth ac adfer cyfleusterau fe allen ni ddod ac arian i mewn i gymunedau difreintiedig.”