Llun o'r wefan
Fel yr oedd cyfnod Llywodraeth y Cynulliad yn dod i ben, fe lansiodd Plaid Cymru ymosodiad chwyrn ar eu partneriaid Llafur.
Gyda phum wythnos tan etholiadau’r Cynulliad, mae’r Blaid wedi sefydlu gwefan sydd, medden nhw, yn tynnu sylw at fethiant Llafur i weithredu.
Roedd tymor ffurfiol y Llywodraeth yn dod i ben ddoe ac mae cyfnod ymgyrchu’r etholiad wedi dechrau – roedd yna raeadr o ddatganiadau yn ystod y dydd wrth i weinidogion geisio cael cyhoeddusrwydd munud ola’ a dangos eu bod wedi cyflawni addewidion.
Y wefan
“Lle oedd Llafur” yw enw’r wefan ac mae’n cyhuddo’r blaid yng Nghymru o fethu â gweithredu mewn meysydd pwysig – fel cael arian teg i Gymru o Lundain a iawndal i lowyr, gan honni bod Llywodraeth Lafur wedi ceisio torri maint y taliadau.
Mae’r wefan yn arwydd y bydd llawer o’r ymladd caleta’ rhwng y cyn bartneriaid yn Llywodraeth Cymru’n Un. Ar hyn o bryd, yn ôl y polau piniwn, Llafur sy’n manteisio ar anawsterau’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol o fod mewn Llywodraeth yn Llundain.
Roedd y pôl diweddara’n dangos bod Llafur o fewn cyrraedd i fwyafrif o seddi yng Nghymru, gyda Phlaid Cymru hefyd yn colli ychydig o dir.