Ysbyty Gwynedd
Mae’r rhan fwya’ o ymwelwyr wedi eu gwahardd o nifer o wardiau mewn ysbytai yng ngogledd Cymru, oherwydd afiechyd chwydu’r gaeaf.

Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod achosion o’r norovirus yn effeithio ar ysbytai mawr Gwynedd  a Maelor, Uned Hergest ym Mangor ac ar Ysbytai Llandudno a’rWyddgrug.

Dim ond cleifion sy’n marw neu’n ddifrifol wael a fydd yn cael derbyn ymwelwyr mewn pum ward yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, chwech yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, tair  yn Hergest, dwy yn Llandudno ac un yn yr Wyddgrug.

Ond mae’r Bwrdd yn dweud y bydd yr ysbytai’n parhau i dderbyn cleifiion a fydd dim effaith ar y gwasanaethau i gleifion allanol.

‘ Cyffredin mewn ysbytai’

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd bod yr afiechyd yn un cyffredin mewn ysbytai ac mae’n gallu arwain at chwydu drwg neu ddolur rhydd.

“Y lle delfrydol i’r feirws hwn ledaenu ydy unrhyw fan lle mae nifer fawr o bobol yn dod at ei gilydd. Dyma’r rheswm pam fod yr afiechyd yn arbennig o gyffredin mewn ysbytai,” meddai.

“Fel arfer, bydd y symptomau’n dechrau rhwng 12 a 48 awr wedi i’r unigolyn ddal yr haint. Mae’r rhan fwyaf o bobol iach yn gwella o fewn cyfnod o rhwng un a thri diwrnod ond gall plant ifanc a phobl hŷn ddioddef cymhlethdodau, a’r un mwya’ cyffredin ydi diffyg hylif.”