Alcohol - costio £73 miliwn
Mae problemau pwysau ac yfed yn costio o leia’ tua £160 miliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd.

Mae hynny’n golygu 3% o’r holl gostau, neu fwy na £50 ar gyfer pob person yn y wlad. Gyda phroblemau ysmygu, mae’r cyfanswm yn codi i 10%.

Roedd y gwaith ymchwil gan Brifysgol Abertawe wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth y Cynulliad a dyma’r tro cynta’ i neb geisio rhoi cyfanswm ar gostau iechyd y ddwy broblem.

Yr amcangyfri’ manwl oedd fod tewdra’n costio £86 miliwn y flwyddyn a goryfed yn costio £73 miliwn.

Ond roedd yr ymchwilwyr yn rhybuddio hefyd y gallai’r gost wirioneddol fod yn fwy fyth a doedden nhw ddim wedi ystyried costau cymdeithasol eraill.

‘Posib atal’

“Y peth trist yw bod gorddefnydd o alcohol a bod yn rhy dew yn broblemau iechyd y mae posib eu hatal,” meddai Prif Swyddog Meddygol Cymru, Tony Jewell.

“Fel ysmygu, mae modd mynd i’r afael â nhw gydag agwedd strategol at newid ymddygiad pobol.

“Yn ddigon teg, mae pobol yn disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd fod ar gael pan fyddan nhw’n dost ond mae angen i ni atgyfnerthu’r neges bod angen iddyn nhw helpu’r Gwasanaeth Iechyd trwy gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain.”