Nick Bourne - 'eisiau mwy o chwarae teg i gefn gwlad'
Rhoi cyfle i gymunedau feddiannu adnoddau lleol fel neuaddau cymuned, tafarndai a swyddfeydd post yw un o addewidion y Ceidwadwyr ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad.
Fe fydden nhw hefyd yn cael cymorth busnes i gynnal y mentrau wedyn, yn ôl Siarter y mae’r blaid wedi ei chyhoeddi ar gyfer Gefn Gwlad Cymru.
Roedd eu llefarydd, Brynle Williams, yn dweud bod Ceidwadwyr Cymru wedi ymroi i sicrhau dyfodol cymunedau gwledig, sydd dan bwysau mawr.
Dim ond penawdau sydd yn y Siarter, heb fanylion, ond mae hefyd yn sôn am roi mwy o lais i gymunedau yn y broses o ddatblygu cymdeithas ac economi a chefnogi dyfodol ffermydd teulu.
Maen nhw’n addo ymgynghori gyda chyrff fel yr undebau ffermio wrth ddatblygu’r Siarter.
“Dyw cymunedau gwledig ddim yn cael y lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw,” meddai Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Bourne.