Protestwyr Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth y prynhawn yma
Mae pump o ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu stiwdios y BBC yn Aberystwyth ac atal darllediad rhaglen Geraint Lloyd ar Radio Cymru heddiw.

Roedd y brotest yn rhan o’r ymgyrch yn erbyn cynlluniau’r BBC a’r Llywodraeth ar gyfer S4C.

 Fe fu’n rhaid i Radio Cymru chwarae cerddoriaeth ddi-dor am gyfnod ar ôl i’r ymgyrchwyr iaith cael mynediad i’r stiwdio. 

 Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y BBC i wrthod y cytundeb presennol gyda’r llywodraeth ac yn hytrach aros am adolygiad cynhwysfawr o S4C yn unol â’r galwadau gan bedwar arweinydd y prif bleidiau yng Nghymru.

 “Mae Llywodraeth Prydain yn cynllunio cwtogi ei grant i S4C o 94%, gyda’r BBC yn cytuno i ariannu’r sianel trwy’r ffi drwydded o 2013/14 ac fe fydd yn golygu toriad o dros 40% mewn termau real i gyllideb y sianel yn ei gyfanrwydd,” meddai Cymdeithas yr Iaith mewn datganiad. 

 Fe ddywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, fod dyfodol y sianel yn y fantol oherwydd cynlluniau am doriadau sylweddol i’r sianel ac i’r BBC ei chymryd drosodd

 “Dyna pam rydyn ni’n ymgyrchu. Mae’r BBC a’r Llywodraeth wedi creu argyfwng darlledu yng Nghymru,” ychwanegodd Bethan Williams. 

 “Bargen funud olaf ac annoeth penaethiaid y Llywodraeth a’r BBC yn Llundain sydd wedi creu’r llanast presennol.

 “Rydym ni’n poeni am ddyfodol S4C dan y cynlluniau hyn ac yn teimlo fod rhaid i ni ddod â’n neges yn uniongyrchol at y BBC er mwyn dangos ein pryder. Rydym ni yn gofyn i bawb gefnogi’r ymgyrch yma ym mha ffordd bynnag y gallan nhw.”