Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu peidio â pharhau gyda chynlluniau i hysbysebu gyda Real Radio.
Fe ddaw’r penderfyniad hwn yn sgil agwedd ‘drahaus’ rheolwyr yr orsaf tuag at y Gymraeg.
Roedd y Bwrdd wedi bwriadu gosod hysbysebion ar yr orsaf yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ond ar ôl gweld geiriad disgrifiad am swydd gyda’r orsaf, mae’r cynlluniau i dalu am ofod hysbysebu wedi eu rhoi o’r neilltu oherwydd eu bod nhw’n credu bod diffyg parch wedi cael ei ddangos tuag at yr iaith Gymraeg.
Roedd geiriad y swydd ddisgrifiad yn nodi:
“A brilliant opportunity has come up at Wales’ only national commercial station, Real Radio…And, no, you don’t have to speak Welsh!”
‘Cam gwag’
“Mae agwedd y cwmni darlledu cenedlaethol Real Radio am yr iaith Gymraeg yn annerbyniol,” meddai Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones.
“Mewn gwlad lle mae i’r Gymraeg statws swyddogol a lle mae ewyllys dda gynyddol tuag ati ym mhob rhan o’r wlad, ymysg y Gymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd, mae Real Radio wedi gwneud cam gwag.
“Cam gwag a fydd yn costio iddynt yn ariannol, gan nad ydym ni bellach yn mynd i barhau á’n cynlluniau o hysbysebu ar yr orsaf.”
Yn gynharach, dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod yn bwriadu cwyno wrth Ofcom am agwedd yr orsaf radio (gweler stori ar wahân).