Ffatri Schaeffler ym Mynea (o wefan y cwmni)
Mae diwydiannau cynhyrchu’n parhau’n rhan hanfodol o ddyfodol economaidd Cymru, yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog.

Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn croesawu adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach heddiw, gan alw am hyder newydd, am edrych y tu hwnt i’r dirwasgiad ac am anelu’n uchel

Mae Fforwm Gweithgynhyrchu Cymru’n dweud bod angen canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, partneriaethau, arloesi a gallu technolegol er mwyn anelu am lefelau ucha’r farchnad.

Er bod tua 135,000 o bobol yn parhau i weithio yn y sector , mae wedi gostwng tuag 16% yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Ond fe gododd lefelau cynhyrchu yn ystod wythnosau cynta’ eleni ac mae’r Fforwm yn dweud bod dyfodol addawol i’r sector yng Nghymru.

‘Cynhyrchu’n hanfodol’

Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn annerch diwydianwyr pan fydd yn ymweld â gwaith Schaeffler ym Mynea ger Llanelli.

“Fe all Cymru greu a datblygu nwyddau y mae’r byd eu heisiau, a hynny mewn ffordd gystadleuol, lwyddiannus,” meddai.

“Ein nod ni yw creu economi cryf a bywiog yng Nghymru ac mae gweithgynhyrchu’n ganolog i’r weledigaeth honno. Ond dim ond  trwy gydweithio gyda diwydiant y gallwn ni gyflawni hynny.”