Cheryl Gillan - ddim yn gefnogol
Mae Aelodau Seneddol wedi awgrymu y dylid cyfuno’r adrannau sy’n gyfrifol am Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.

Daw’r adroddiad gan un o bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin ar ôl i Gymru bleidleisio o blaid rhagor o bwerau i’r Cynulliad ddydd Iau.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth y San Steffan i “ystyried o ddifrif” a oes angen tair adran ar wahân ar gyfer y gwledydd datganoledig.

“Ni fyddai cyfuno’r adrannau yma yn gofyn am ailstrwythuro mawr o ystyried fod y swyddfeydd yn weddol fach,” meddai’r adroddiad.

Fe fyddai’r newid yn golygu fod angen dau aelod Cabinet yn llai, ac un gweinidog yn llai.

Mae Swyddfa Cymru yn cyflogi 60 o weithwyr, mae Swyddfa’r Alban yn cyflogi 100 ac mae Swyddfa Gogledd Iwerddon yn cyflogi 110.

Daw’r argymhelliad ar ôl ffrae dros yr wythnos diwethaf, wrth i Lywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, ddweud fod angen ystyried a oedd angen Swyddfa Cymru.

Mae datganoli bellach wedi symud y rhan fwyaf o’r pwerau oedd gan Swyddfa Cymru, yr Alban ac Iwerddon i’r gwledydd datganoledig, medden nhw.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ac Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain, wedi wfftio’r awgrym.

Mae 10 Stryd Downing hefyd wedi dweud nad oes cynllun i gau Swyddfa Cymru.

Cyhoeddwyd yr adroddiad gan y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus heddiw.

Roedd yn dweud fod gormod o weinidogion yn rhan o Lywodraeth San Steffan ac y dylen nhw dorri’n ôl.