Muammar al-Gaddafi (Llun gan Stefan Rousseau/PA)
Mae Prydain yn gobeithio y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn rhyddhau datganiad ar y cyd yn galw ar y Cyrnol Muammar Gaddafi i gamu o’r neilltu.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg fod swyddogion diogelwch arweinydd Libya wedi dal a churo rhai o newyddiadurwyr y BBC.

Roedd y newyddiadurwyr wedi bod yn ceisio cyrraedd dinas orllewinol Zawiya yn dilyn brwydro ffyrnig yno dros y dyddiau diwethaf.

Mewn llythyr ar y cyd â’r Almaen, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, fod y gwrthdaro yn “ardd gefn” Ewrop yn her newydd i’r undeb.

Dywedodd y dylai’r Undeb Ewropeaidd gytuno ar ddatganiad “na fydd yr Undeb Ewropeaidd na’i aelodau yn gweithio neu gydweithio â Gaddafi a bod rhaid iddo gamu o’r neilltu er mwyn caniatáu i’w wlad symud tuag at ddemocratiaeth”.

Y BBC

Cafodd tri aelod o staff Arabaidd y BBC eu cyhuddo o fod yn ysbiwyr a’u cadw yn y ddalfa am 21 awr.

Roedden nhw wedi eu harestio ddydd Llun ar groesfan yn Al Zahra, chwe milltir i’r gorllewin o ddinas Zawiyah.

Dywedodd y newyddiadurwyr bod y dynion oedd yn eu dal wedi ymosod arnyn nhw drosodd a throsodd ac wedi smalio eu bod nhw’n mynd i gael eu lladd.

Mae’r BBC wedi beirniadu eu “triniaeth ffiaidd” ac mae’r Swyddfa Dramor wedi addo dial.

“Mae hyn yn esiampl arall o’r troseddau erchyll sy’n digwydd yn Libya,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

“Roedd llywodraeth y wlad wedi gwahodd newyddiadurwyr i Libya i weld y gwir. Mae’r gwir yn fwy amlwg heddiw nag yr oedd gynt.”