Esiampl o'r Torrwr Gwrychoedd gafodd ei ddwyn (Llun Heddlu'r Gogledd)
Mae Heddlu’r Gogledd yn gofyn am dystion i’w helpu wedi i ddau dractor gael eu dwyn o ardal y Bala yn ddiweddar.

Fe gafodd tractor Massey Ferguson 6290 cofrestrif PO53 MWL ei ddwyn, yn ogystal â thractor torri gwrychoedd Bomford Hawk.

Mi gawson nhw eu cymryd rhywbryd rhwng pump amser te ar ddydd Gwener, 13 Hydref, ac wyth y bore ar ddydd Llun, Hydref 16.

Bu i’r ddau ddiflannu o fynydd-dir y Berwyn ger y Bala.

“Hoffwn glywed gan unrhyw un welodd unrhyw ymddygiad amheus yn yr ardal tros y penwythnos dan sylw,” meddai’r Plismon Cynorthwyol Rhys Evans.

“Hefyd byddwn yn cynghori cymunedau lleol i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw un sy’n ymddwyn yn amheus.”

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladrad i’w ffonio ar 101 neu yn ddienw ar rif Taclo’r Taclau – 0800 555 111 – a dyfynnu’r cyfeirnod RM17024061.