Mae Aelod Cynulliad wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gamarwain pobol Glyn Ebwy, ar ôl gweld copi cyfrinachol o adroddiad y Llywodraeth i effaith economaidd prosiect Cylchffordd Cymru ar yr ardal.

Yn ôl Adam Price, mae’r adroddiad y mae wedi gweld yn dangos y byddai’r cynllun wedi dod â dros 7,000 o swyddi llawn amser i’r ardal, lle mae ffigurau diweithdra gyda’r uchaf yng Nghymru.

Mae’r ffigwr llawer yn is na’r hyn roedd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi’i ddweud mewn datganiad ysgrifenedig rhai misoedd yn ôl, lle’r oedd yn amcangyfrif mai dim ond ychydig dros 1,000 o swyddi byddai’n dod o’r prosiect.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y ffigurau y mae Adam Price yn cyfeirio atyn nhw yn dod o fersiwn ddrafft ac anghyflawn o’r adroddiad.

“Camargraff bwriadol”

O ddyfynnu’r adroddiad, mae’r Aelod Cynulliad yn dweud y byddai yna botensial i greu 4,630 o swyddi llawn amser wrth adeiladu’r gylchffordd ac y byddai yna 3,300 o swyddi ychwanegol llawn amser wedi i’r gwaith gael ei gwblhau.

“Ry’n ni’n credu yn fwriadol fe wnaeth e gyfyngu’r ffigurau i’r ffigwr lleiaf posib. Fe wnaethon ni ofyn ar y pryd ‘beth oedd y ffigwr oedd gyda chi ar gyfer y swyddi’, ac roedd e’n gwrthod dweud,” meddai Adam Price wrth golwg360.

“Drwy gydol yr haf, roedd e’n dweud r’yn ni ddim ond yn mynd i gyhoeddi hynny unwaith ry’n ni’n cyhoeddi’r [adroddiad] due diligence i gyd.

“Ond mae gennym ni’r copi yma nawr ac ry’n ni nawr yn gwybod pam ei fod wedi bod mor dawel ynglŷn â’r peth.

“Ry’n ni’n credu bod nhw wedi rhoi camargraff bwriadol er mwyn osgoi embaras gwleidyddol iddyn nhw, bod nhw wedi troi lawr prosiect roedd eu hymgynghorwyr nhw wedi dweud y byddai’n creu 3,300 o swyddi yn sicr yn ystod y cyfnod gweithredol.”

Cyhuddo Adam Price fod yn ddrygionus

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyhuddo o “[d]dewis a dethol tablau o adroddiadau drafft heb eu cyhoeddi a’u cyflwyno mewn ffordd ddrygionus sydd mewn gwirionedd yn gamarweiniol.”

Ychwanegodd y llefarydd y byddan nhw’n cyhoeddi’r adroddiadau “cywir, llawn a therfynol maes o law fel eu bod yn gallu cael eu hystyried yn gywir ac yn eu crynswth.”