Mae tua 200,000 o fenywod yng Nghymru yn dioddef clefyd y galon, yn ôl ffigurau Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF).

Yn ôl yr elusen mae tua 4,500 o fenywod yn marw pob blwyddyn yng Nghymru oherwydd problemau â’u calonnau – gan gynnwys trawiad ar y galon neu strôc.

Hefyd, mae’n debyg bod menywod 50% yn fwy tebygol o dderbyn diagnosis gwallus wedi iddyn nhw ddioddef trawiad ar y galon.

Nod BHF yw tynnu sylw’r cyhoedd ar y ffaith nad dynion yn unig sydd yn dioddef o gyflyrau ar eu calonnau.

Mae’r elusen yn pryderu nad oes ymchwil digonol ar gyflyrau ymysg menywod, ac yn bwriadu gwario £5 miliwn ar ymchwil yng Nghymru.