Mae Heddlu Gwent wedi diolch i’r cyhoedd am “eu hamynedd a’u cefnogaeth” ar ôl i dri o bobol o Gasnewydd gael eu harestio mewn perthynas â’r ymosodiad brawychol yn Parsons Green yn Llundain.

Mae pump o bobol wedi’u harestio hyd yn hyn, a’r trydydd un o Gymru wedi’i arestio heddiw.

Cafodd dyn 48 oed a dyn 30 oed eu harestio y bore ma yn dilyn cyrch ar eiddo yng Nghasnewydd, ac mae’r heddlu’n parhau i archwilio tŷ arall yn y ddinas.

Cafodd 30 o bobol eu hanafu yn y ffrwydrad ar drên tanddaearol fore Gwener diwethaf, Medi 15.

Cafodd dyn 25 oed ei arestio yng Nghasnewydd nos Fawrth, a chafodd dyn 18 oed ei arestio yn Dover ddydd Sadwrn. afodd dyn 21 oed ei arestio yn Hounslow ger Llundain ddydd Sadwrn. 

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: “Rydym yn deall pryder y cyhoedd pan fo digwyddiad fel hwn yn codi’n lleol.

“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd, fodd bynnag, fod Heddlu Gwent yn sefyll ysgwydd ag ysgwydd â phartneriaid ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw fygythiad i’n cymunedau.”