Dinas Llundain (Colin a Kim Hansen, Wikipeida Commons CCA 4.0 Rhyngwladol)
Mae gwario cyhoeddus ar yr economi yn Llundain fwy na phedair gwaith yn fwy nag yng Nghymru, yn ôl papur trafod gan ddau academydd amlwg.

Maen nhw’n defnyddio’r ffigurau’n rhan o’r ddadl tros fath hollol newydd o ddatblygu economaidd sydd, medden nhw, yn llai gwastraffus ac annheg na’r drefn bresennol.

Ac maen nhw’n dadlau’n gry’ yn erbyn polisi y Dinas Ranbarthau fel yr un sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yng Nghaerdydd.

Y ffigurau

Yn ôl ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi gan Terry Marsden a Mark Lang o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, yna annhegwch mawr rhwng y gwario ar ‘faterion economaidd’ yn Llundain yn 2015-16 o’i gymharu â Chymru.

  • Y ffigwr ar gyfer Llundain oedd £10,632 biliwn.
  • Y ffigwr ar gyfer Cymru oedd £2546 biliwn.

Mae hynny, medden nhw, yn arwydd o’r ffordd y mae economi gwledydd Prydain yn cael ei ystumio i atgyfnerthu rhai mannau ar draul rhai eraill, ac maen nhw’n dadlau bod polisïau Cymru ar hyn o bryd yn dilyn yr un patrwm, er enghraifft gyda chynllun Dinas Ranbarth Caerdydd.

‘Math newydd o ddatblygu’

Mae’r ddau academydd yn dadlau tros fath newydd o ddatblygu economaidd sy’n cynnwys mesurau eraill o lwyddiant, gan gynnwys lles y bobol, ac un sy’n dibynnu llai ar ddefnyddio adnoddau cyfyngedig.

“Mae twf, hyd yma, wedi arwain at lefelau sy’n sylweddol uwch o anghyfartaledd a pholareiddio cyfoeth,” medden nhw. “Mae rhaglen y Dinas Ranbarthau wedi gwaethygu’r duedd lle mae hanfodion polisi economaidd lleol a rhanbarthol wedi’i benderfynu ymlaen llaw gyda meini prawf cyfyng.

“Gorsymleiddio ofnadwy yw dweud yn syml mai swyddi a thwf yw’r ateb i ddyfodol cymuned, gan nad yw’n ystyried a yw’r rheiny o les i’r gymuned, neu a yw’r math hwnnw o dwf a swyddi’n parhau i sugno cyfoeth, i danseilio cynaliadwyedd neu a ydyn nhw’n mynd i’r afael â’r heriau cymhleth sy’n wynebu’r gymuned honno.”

Fe fydd cynhadledd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach yn y mis i drafod y ddogfen, Ailfeddwl am Dwf: Tuag at Economi Lles.