Mae mwy na thraean, 37%, o gartrefi Cymru heb larwm carbon monocsid, yn ôl ymchwil gan y gofrestr ddiogelwch nwy (Gas Safe).

Mae’r gofrestr yn annog pobol i gael larwm o’r fath er mwyn osgoi’r posibilrwydd o wenwyn carbon monocsid (CO) lle nad oes arwyddion amlwg iddo.

Fe wnaeth eu hymchwil holi 2,007 o oedolion ym Mhrydain ym mis Awst eleni, gyda’r canlyniadau’n dangos fod 46% o gartrefi gwledydd Prydain heb larwm carbon monocsid sy’n golygu fod mwy na 12 miliwn o gartrefi mewn risg o’r gwenwyn.

Mae’r Gofrestr Diogelwch Nwy a’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ceisio codi ymwybyddiaeth am y peryglon ar drothwy wythnos ddiogelwch nwy sy’n cael ei chynnal rhwng Medi 18 a 24.

Arwyddion dyfeisiau nwy

“Rydym yn annog teuluoedd i ofyn i beirianwyr sydd wedi’u cofrestru gyda Gas Safe i wirio bod eu dyfeisiau yn saff fel y cam cyntaf i amddiffyn rhag gwenwyn posib CO,” meddai Jonathan Samuel, Prif Weithredwr y Gofrestr Diogelwch Nwy.

“Mae’n bryderus bod mwy na hanner o’r bobol a ofynnwyd yng Nghymru (54%) ddim yn gwybod arwyddion peryglus dyfeisiau nwy.”

Ychwanegodd fod arwyddion dyfeisiau nwy nad sy’n gweithio’n iawn yn cynnwys:

  •  fflam felen isel yn hytrach na fflam las siarp,
  • swt neu staeniau o gwmpas y ddyfais,
  • gormodedd o anwedd yn yr ystafell.