Y logo newydd
Mae hosbis plant yng Nghaerdydd wedi newid ei henw er mwyn rhoi hyd braich rhyngddi ag “unrhyw gysylltiad negyddol” â sylfaenydd yr elusen – George Thomas, cyn-Ysgrifennydd Cymru ac Arglwydd Tonypandy.

Mae ‘George Thomas Hospice’ bellach wedi newid ei henw i ‘City Hospice’ a hynny yn dilyn ymchwiliad a ddaeth i ben am gyhuddiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn y dyn a ddaeth yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin ac yn ffrind i’r teulu brenhinol.

Bu farw George Thomas yn 1997 ac, yn ôl datganiad gan yr hosbis, maen nhw eisiau pellhau oddi wrth unrhyw gysylltiadau negyddol “nawr neu yn y dyfodol” ynglŷn ag ef.

Y cyhuddiadau

Dim ond yn ddiweddar y cododd y cyhuddiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn George Thomas a oedd wedi dod yn ffigwr amlwg iawn trwy fod yn Llefarydd ar Dŷ’r Cyffredin pan ddechreuodd darlledu oddi yno.

Er na arweiniodd y rheiny at weithredu pellach, mae awdur llyfr am y gwleidydd yn dweud y gallai pethau fod yn wahanol petai George Thomas yn fyw.

Fe ddywedodd y newyddiadurwr, Martin Shipton, wrth y BBC ei bod yn “debygol iawn” y byddai wedi cael ei erlyn.

‘Ei berthnasedd â’r elusen’

Er eu bod yn dweud bod angen “pellhau’r elusen” rhag cyhoeddusrwydd gwael ynghylch George Thomas maen nhw’n rhoi’r pwyslais ar resymau eraill am newid yr enw.

Maen nhw’n cydnabod y “manteision” o gael eu cysylltu â George Thomas a oedd wedi “sicrhau ffyniant a goroesiad cynnar yr elusen” ond yn dweud nad yw pobol heddiw’n gwybod llawer amdano.

“Mae angen i’r Hosbis apelio at y cyhoedd yn ehangach,” meddai’r datganiad gan ddweud mai ond “lleiafrif sy’n gyfarwydd â George Thomas.”