Llun sy'n mynd gyda deiseb yn erbyn y llosgydd (www,change,org)
Mae disgwyl tyrfa fawr yng nghanol y Barri fory i brotestio yn erbyn cynllun i godi llosgydd gwastraff coed yn nociau’r dre’.

Mae’n benllanw i flynyddoedd o ymgyrchu yn erbyn y bwriad, gydag ymgynghoriad ar y cynllun yn dod i ben ddiwedd Awst

Mae’r gwrthwynebwyr wedi trefnu diwrnod o weithgareddau yn Sgwâr y Brenin yn y Barri – dyma’r cyfle ola’, medden nhw, i brotestio yn erbyn y datblygiad.

Y cefndir

Mae’r dadlau tros y llosgydd wedi para o leia’ saith mlynedd, gyda chwmni Biomass UK No 2 yn cael caniatâd terfynol y llynedd gan Gyngor Bro Morgannwg.

YN awr mae’r corff amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnal ymgynghoriad wrth ystyried rhoi trwydded i’r llosgydd ai peidio.

Fe fydd yr ymgynghoriad hwnnw’n dod i ben ar 28 Awst eleni.

Dadleuon y gwrthwynebwyr

Yn ôl y gwrthwynebwyr, fe fyddai mwg o’r llosgydd yn effeithio ar filoedd o gartrefi, wrth gael ei chwythu o’r dociau ar draws tre’r Barri.

Maen nhw hefyd yn dadlau bod modd ailgylchu’r gwastraff pren, yn hytrach na’i losgi, ac na fydd y llosgydd yn creu fawr ddim swyddi newydd.

Fe fyddai’r gwastraff yn cael eu gludo i mewn o’r tu allan, medden nhw.

Mae’r datblygwyr, ar y llaw arall, wedi dadlau’n gry’ na fydd y llosgydd yn fygythiad i iechyd pobol.