Mae un o aelodau amlwg Plaid Cymru wedi dweud bod angen i’w gyd-aelodau roi’r gorau i gwestiynu dyfodol Leanne Wood yn anhysbys, a sefyll yn agored yn ei herbyn mewn ras am yr arweinyddiaeth.
“Os oes rhywun yn teimlo y gallen nhw fod yn well arweinydd na Leanne Wood, dylen nhw sefyll a defnyddio prosesau’r blaid i wneud hynny’n hytrach na dweud pethau’n ddi-enw,” meddai Simon Thomas.
Daw sylwadau’r Aelod Cynulliad yn dilyn straeon sy’n awgrymu bod ei chyd-aelodau yn anhapus gydag arweinyddiaeth Leanne Wood.
Yn ôl BBC Cymru, mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru – nad oedd yn fodlon cael ei enwi – wedi galw am etholiad i ddewis arweinydd. Mae’r Pleidiwr anhysbys yn honni bod Leanne Wood “wedi colli awdurdod” ymhlith y grŵp yn y Cynulliad.
Fe ddywedodd Simon Thomas wrth raglen Newyddion 9 S4C: “Beth fyddwn i’n licio i’r blaid ganolbwyntio arno nawr yw’r cwestiwn arweinyddol sydd gennym ni sydd ddim yn troi o gwmpas un person fel arweinydd ond y cwestiwn, ‘a ydyn ni’n perfformio fel grŵp Cynulliad cystal â gallwn ni fod?’
“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni, felly mae’n rhaid i ni – bob un ohonon ni – wella’n gêm.”
Cwestiynu dyfodol Leanne “mor amlwg”
Mae Simon Thomas yn Aelod Cynulliad tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, a bu’n Aelod Seneddol Ceredigion am blwc.
Dywedodd wrth y BBC bod cwestiynu dyfodol Arweinydd ei Blaid yn rhywbeth digon naturiol i’w wneud.
“Mae hwnna jest mor amlwg i fi,” meddai Simon Thomas wrth Newyddion 9.
“Dyw hwnna ddim yn dweud unrhyw beth o blaid neu yn erbyn unrhyw berson, mae e jest yn amlwg bod hwnna’n mynd i fod yn rhan o’r drafodaeth.
“Os oes rhywun yn teimlo y gallen nhw fod yn well arweinydd na Leanne Wood, dylen nhw sefyll a defnyddio prosesau’r blaid i wneud hynny’n hytrach na dweud pethau’n ddienw.”
Yn ôl cyfansoddiad y Blaid, rhaid i’r Arweinydd sefyll i gael ei ail-ethol bob dwy flynedd, a daw’r cyfle nesaf i herio Leanne Wood y flwyddyn nesaf.