Emma Matthews (Llun: Heddlu'r De)
Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy dynes mewn gwesty yn Llanilltud Faerdref yn Rhondda Cynon Taf.

Cafwyd hyd i gorff Emma Matthews, 30 oed, yng Ngwesty Scotts yn Llanilltud Faerdref ddydd Sul.

Credir ei bod wedi marw rywbryd rhwng nos Sadwrn, 29 Gorffennaf ac oriau man bore dydd Sul, 30 Gorffennaf.

Mae un person wedi cael eu harestio mewn cysylltiad a’i marwolaeth.

Dywed yr heddlu bode u hymchwiliad yn parhau a’u body n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1700295601.