Leighton Andrews (Llun: y Cynulliad)
Dylai Llafur Cymru ystyried hollti oddi wrth y Blaid Lafur Brydeinig yn sgil Brexit, yn ôl un o gyn-weinidogion Llafur, Leighton Andrews.
Roedd safbwyntiau Llafur Prydain ynghylch yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos ddiwethaf “dros y lle i gyd”, meddai wrth raglen Sunday Supplement y BBC.
Mae e wedi cyhuddo un o aelodau meinciau blaen Llafur o ysgrifennu erthygl “hurt” am y farchnad sengl.
Roedd Barry Gardiner, llefarydd masnach y blaid yn San Steffan, wedi ysgrifennu yn y Guardian y byddai perthynas debyg i’r hyn sydd gan Norwy â’r Undeb Ewropeaidd yn gadael Prydain mewn cyflwr “caeth”, ac y dylai Prydain adael y farchnad sengl a’r undeb gyllid.
Mae hyn yn groes i farn Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sy’n dadlau y dylai Prydain aros yn y farchnad sengl.
‘Sefyllfa enbyd iawn’
Dywedodd Leighton Andrews wrth Radio Wales: “Wel, dw i wir yn credu os na all Plaid Lafur y DU ddod ynghyd ar y mater sylfaenol hwn, yna fe fydd Llafur ar lefel y DU mewn sefyllfa enbyd iawn.
“Yn yr achos hwnnw, o ystyried llwyddiant Llafur Cymru, yn enwedig yn yr etholiad cyffredinol diweddaraf, yn etholiadau’r Cynulliad a’r ffaith fod Llafur Cymru’n llywodraethu o hyd, dw i’n credu bod achos cryf iawn ar ddechrau’r wythnos dros gymryd camau i amddiffyn Llafur Cymru, ei hunaniaeth a’i rôl.”
Collodd Leighton Andrews ei sedd yn y Cynulliad yn 2016, ac fe ddywedodd ei fod yn gweld y Blaid Lafur ganolog yn symud yn nes at safbwyntiau Lafur Cymru’n ddiweddar, a’i fod yn croesawu hynny.
Gwahaniaethau
Ond fe ddywedodd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried symud oddi wrth y blaid Brydeinig pe bai hynny’n newid.
“Y realiti, dw i’n meddwl, yw fod yna wahaniaeth sy’n weladwy bellach ymhlith y rheiny yn y Blaid Lafur sydd â phrofiad o lywodraethu ac o redeg pethau, a dyna’n sicr sy’n wir am Lywodraeth Lafur Cymru, a’r rheiny yn yr wrthblaid sydd heb unrhyw brofiad o lywodraethu ac ychydig iawn o brofiad o fod yn weinidogion yr wrthblaid.
“Mae hi’n amlwg iawn nad yw’r rhan fwyaf o bleidleiswyr Llafur nac aelodau Llafur yn ffafrio Brexit caled.”