Canghellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry, yn cyflwyno'r Athro Martin Conway yn Gymrodor yn y seremoni ddoe (llun gan y Brifysgol)
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi urddo ysgolhaig disglair sy’n enedigol o’r dref a chyn-fyfyriwr sy’n flaenllaw ym myd busnes yn Gymrodyr er Anrhydedd.

Cafodd yr Athro Martin Conway o Goleg Balliol, Rhydychen, ei eni a’i fagu yn Aberystwyth, ac aeth i Ysgol Penglais.

Aeth ymlaen i astudio Hanes yng Ngholeg Wadham ym Mhrifysgol Rhydychen, a dyfarnwyd iddo ei ddoethuriaeth yn 1989.

Ers 1990, bu’n Gymrawd a Thiwtor Hanes yn Balliol, yn ogystal ag Athro Hanes Ewropeaidd Cyfoes yn y Gyfadran Hanes.

Mae’n awdur, neu’n gydawdur, saith o lyfrau.

Prif weithredwr y cwmni cyfyngedig cyhoeddus Saga yw’r llall i gael ei urddo yn y seremoni yn Aberystwyth ddoe.

Mae Lance Batchelor yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, gan ennill gradd BSc (Econ) yno yn 1985.

Yn ystod ei yrfa mae wedi dal swyddi blaenllaw mewn amrywiaeth helaeth o gwmnïau mawr gan gynnwys Domino’s Pizza, Tesco Mobile Procter & Gamble, Amazon.com a Vodafone.