Fe fydd ymgyrch newydd sy’n dymuno rhwystro cynllun “peryglus” a fydd yn gwahardd rhieni rhag taro eu plant yn cael ei lawnsio yng Nghaerdydd ar ddydd Llun nesaf.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lawnsio’n swyddogol gan Lowri Turner, llefarydd y grŵp, ‘Byddwch yn Rhesymol’, sy’n ymgyrchu dros rieni a grwpiau theuluoedd sy’n gwrthwynebu cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwharddiad o’r fath.

Bwriad yr ymgyrch fydd rhybuddio pobol am beryglon y gwaharddiad a fydd yn rhoi cannoedd ar filoedd o rieni cyffredin mewn risg o gael eu hystyried yn droseddwyr – yn enwedig wrth gael gwared ar eu hawl i gosbi’n rhesymol.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn annog aelodau o’r cyhoedd i gysylltu â’u Haelodau Cynulliad i arwyddo deiseb sy’n galw ar y Llywodraeth i roi terfyn ar y cynllun ac i’w hannog i edrych ar ffyrdd eraill o ysgogi a rheoli rhieni.

Yn ymuno â Lowri Turner ar y dydd fydd Dr Ashley Frawley, academydd blaenllaw o’r Adran Iechyd y Cyhoedd, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.