Mae cwmni o Sir Fynwy wedi derbyn benthyciad chwe ffigwr er mwyn cefnogi eu prosiect i ailddatblygu rhan o Stadiwm Rygbi Twickenham.

Mae cwmni Pro Steel yng Nghil-y-coed yn bwriadu ehangu stand dwyreiniol Stadiwm Twickenham er mwyn creu lle ar gyfer digwyddiadau cynhadledd.

Daw’r benthyciad gan Cyllid Cymru trwy Gronfa Busnes Cymru, a chaiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.

Enillodd Pro Steel wobr ‘Busnes Twf y Flwyddyn’ yn 2016, ac mae’r cwmni wedi gweithio ar brosiectau mawr yn y gorffennol gan gynnwys ailddatblygu gorsaf drenau Birmingham New Street.

“Er mwyn cyflawni’r prosiect hwn roeddem angen cyfleuster cyfalaf gweithio i sefydlogi ein dilyniant arian parod drwy gyfnod twf y prosiect ac roedd yn amlwg i ni mai Cyllid Cymru oedd yn cynnig y gefnogaeth orau,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Pro Steel, Richard Selby.