Marc Jones
Mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar feysydd heblaw am addysg os ydyn nhw am gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl un o gynghorwyr Wrecsam sydd hefyd yn gadeirydd tafarn Gymraeg yn y dref.

Er bod Cynghorydd Plaid Cymru, Marc Jones, yn ffyddiog bod y targed “ddim yn rhy uchelgeisiol”, mae’n “amheus iawn” o allu’r Llywodraeth i’w gyrraedd trwy addysg yn unig.

Mae’n debyg bod 12% o blant yn Wrecsam ar hyn o bryd yn astudio trwy’r Gymraeg, ond fe fyddai’n rhaid “treblu” y ffigwr yna trwy adeiladu mwy o ysgolion er mwyn gwireddu’r targed erbyn 2050, meddai Marc Jones.

Er bod galw, meddai, “dyw’r arian ddim yna i’w hadeiladu.”

“Felly, dw i’n amheus iawn o’r gallu i gyrraedd y nod jest trwy addysg Gymraeg,” meddai wrth golwg360. “Dydy addysg ynddo fo’i hun ddim yn creu siaradwyr Cymraeg naturiol,”

“Beth sydd angen ydy’r cyfle wedyn yn y gymuned, i fedru ymarfer y Gymraeg a deall bod yr iaith yn rhywbeth naturiol a chymunedol yn hytrach na jest iaith y dosbarth,” meddai. “Os ydy’r iaith jest yn aros fel iaith y dosbarth, mae’n cael ei golli’n sydyn iawn. Dyna’n profiad ni yn Wrecsam.”

“Fyswn i’n neud yn siŵr fod llawer mwy o gyfleoedd i bobol siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Does dim pwynt dysgu Cymraeg mewn dosbarth os dydych chi ddim yn cael cyfle i’w siarad o unai yn y gwaith neu wrth ymlacio a mwynhau a chymdeithasu.”

Cerddoriaeth fyw

“Mae pwyntiau difyr wedi cael eu gwneud ynglŷn y ffordd yr ydym ni am ariannu pobol i sgwennu llyfrau sy’n gwerthu yn eu cannoedd o bosib,” meddai.

“Ond dydyn ni ddim yn barod i ariannu pobol i recordio a pherfformio cerddoriaeth byw yn Gymraeg gallai gyrraedd miloedd ar filoedd. Efallai bod ein blaenoriaethau ni’n anghywir yn hynny o beth.”