Mae llanc 17 oed o Rondda Cynon Taf wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud a brawychiaeth, meddai’r heddlu.

Roedd ditectifs o uned gwrth-frawychiaeth ac eithafiaeth Cymru (Wectu) wedi arestio’r bachgen toc wedi 5.30yp ddydd Gwener ar ôl chwilio eiddo.

Mae’r llanc wedi ei gludo i ardal y West Midlands i’w holi ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu weithredu gweithred o frawychiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De bod y llanc yn cael ei gadw yn y ddalfa.