Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn sydd i ddod, ar ffurf pum bil.

Ymhlith y biliau mae cynllun i wneud hi’n anghyfreithlon i werthu alcohol am lai na phris penodol, a bil fyddai’n  atal landlordiaid ac asiantau tai rhag codi ffioedd annheg

Dros y 12 mis nesaf mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gobeithio cyflwyno bil fydd yn galluogi darpariaeth 30 awr o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio.

“Cymru iach”

“Bydd y Biliau rydyn ni’n bwriadu eu cyflwyno yn ystod ail flwyddyn y Cynulliad hwn yn helpu’n hymdrechion i adeiladu Cymru iach ac egnïol, ffyniannus a diogel, uchelgeisiol ac sy’n dysgu, unedig a chysylltiedig,” meddai Carwyn Jones.

“Bydd y pum Bil yn mynd i’r afael â defnydd niweidiol o alcohol, helpu rhieni sy’n gweithio, amddiffyn tenantiaid rhag ffioedd annheg a diwygio a gwella llywodraeth leol.