Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n delio â thân yng nghanol Caerdydd.

Mae’r criwiau tân yn rhybuddio pobol i gadw draw o’r ardal o gwmpas Heol y Brodyr Llwydion yn dilyn tân mewn maes parcio.

Mae gwasanaeth bysiau Caerdydd wedi cadarnhau fod Heol y Brodyr Llwydion wedi’i chau.

Un sydd wedi rhannu fideo o’r tân ar wefan gymdeithasol Twitter yw Richard Nosworthy.